Tarian RCCU yn Lansio Gwefan Newydd

Mae’r Uned Seiberdroseddu Ranbarthol (RCCU) ar gyfer De Cymru wedi lansio ei gwefan newydd. Mae’r wefan wedi’i chreu i helpu cymunedau yn y rhanbarth i fod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n ymwneud â seiberddiogelwch.

Mae RCCU Tarian yn gwasanaethu tair ardal heddlu yng Nghymru: De Cymru, Gwent a Dyfed-Powys. Mae’r uned yn cynnwys timau, sy’n cynnwys swyddogion heddlu a staff o’r tri heddlu, sy’n gyfrifol am ymchwilio i seiberdreseddu, archwilio dyfeisiau digidol yn fforensig, ac ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned.

Mae’r tîm ymgysylltu yn rhyngweithio ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. O fusnesau bach a chanolig ac elusennau i ysgolion a cholegau a hyd yn oed unigolion. Nod y tîm yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn teimlo y gallant amddiffyn eu hunain rhag bygythiadau seiner cyffredin. Mae llawer o wybodaeth yn cylchredeg am seiberddiogelwch – sut i amddiffyn eich busnes, sut i amdiffyn eich teulu, ac yn y blaen – ac i lawer gall deimlo’n llethol. Ond nod y wefan hon yw cynnig cyngor ac arweiniad a gymeradwyir gan yr heddlu, i gyd mewn un lle.

Mae gwybodaeth I unigolion, sefydliadau a chyrff addysgol ar dudalennau ar wahân. Mae hefyd yn cynnig llyfrgell adnoddau, gyda chynnwys gan bartneriad cenedlaethol. Bydd adran mewnwelediadau yn cynnwys rhybuddion bygythiad a sgam perthnasol – ar gyfer sefydliadau ac unigolion – ynghyd â diweddariadau tîm a chystadlaethau i bobl ifanc. Mae’r wefan hefyd yn nodi pa wasanaethau y gall yr RCCU, a phartneriaid cymeradwy, eu darparu i sefydliadau a chyrff addysgol.

“Rydym wrth ein bodd gyda’n safle newydd, ac yn credu y bydd yn cynnig llwyfan gwych i helpu’r ddau sefydliad ar cyhoedd ehangach ar draws De Cymru,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Steven Maloney. “Bydd hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith cadarnhaol y mae ein eimau’n ei gwblhau er mwyn helpu i gadw unigolion yn ddiogel ar-lein ac ar ddyfeisiau digidol.”

Dilynwch ni ar LinkedIn i dderbyn arweiniad wythnosol i fusnesau, elusennau a chyrff addysgol.

Dilynwch ni ar Instagram i dderbyn arweiniad i bobl ifanc, rhieni, gwarcheidwaid ac athrawon.

Darllen rhagor o Wybodaeth

Annog pobl â chyfrifon cryptoarian i wylio rhag ymosodiadau ‘wrench’

Wrth i gryptoarian ddod yn fwy poblogaidd, mae'r risgiau cysylltiedig yn esblygu y tu hwnt i'r byd digidol.

Wythnos Preifatrwydd Data 2026

Mae Wythnos Preifatrwydd Data yn atgof blynyddol bod eich data personol yn werthfawr ac yn werth ei ddiogelu. Mae eich gweithgaredd ar-lein yn datgelu mwy amdanoch chi nag yr ydych chi'n meddwl, ond mae gennych chi'r pŵer i gymryd rheolaeth ohono.

Cyfred digidol a pheryglon buddsoddi

Nid yw poblogrwydd cynyddol buddsoddiadau arian cyfred digidol yn dod heb ei beryglon. Cyn buddsoddi mewn cryptocurrency, mae'n hanfodol bod wedi'i wybodaeth yn dda ac yn deall yn glir sut i fuddsoddi'n ddiogel.