Canllawiau Seiber ac Economaidd i Sefydliadau



Yn aml ystyrir mai materion i adran TG yw materion seiber gan fod angen gwybodaeth dechnegol yn aml. Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar gynllun diogelwch seiber da yw mewnbwn gan adran neu ddarparwr gwasanaeth TG.
Gall helpu i feddwl mai elfen dechnegol yw seiberddiogelwch – lleihau risg drwy sicrhau y caiff dyfeisiau a rhwydweithiau eu hamddiffyn rhag cael eu dwyn neu eu difrodi. Fodd bynnag, mae a wnelo seibergadernid â chael dull ar draws y sefydliad sy’n cyfuno seiberddiogelwch â pharhad busnes, gan alluogi sefydliadau i baratoi’n well ar gyfer ymosodiadau seiber ac achosion o dorri rheolau seiber, ymateb iddynt ac adfer ohonynt.
Felly, mae angen arwain cydnerthedd seiber o’r brig i lawr. Ac mae’n hanfodol bod gan sefydliadau o bob maint gynllun seiberddiogelwch a seibergadernid cydlynus o ficro sefydliadau i sefydliadau mawr.
Ystadegau allweddol o chwarter cyntaf 2022:

Mae trosedd economaidd yn cyfeirio at gategori eang o weithgaredd sy’n cynnwys arian, cyllid neu asedau, a’i ddiben yw cael elw neu fantais anghyfreithlon i’r tramgwyddwr neu achosi colled i eraill.
Mae atal twyll yn cynnwys dull strategol o nodi, atal, a lleihau gweithgareddau twyllodrus o fewn sefydliad. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys sefydlu polisïau, gweithdrefnau a rheolaethau cryf i nodi a lliniaru gwendidau posibl. Prif nod atal twyll yw amddiffyn asedau, data ac enw da cwmni trwy atal gwahanol fathau o ymddygiad twyllodrus, megis twyll ariannol, dwyn hunaniaeth, seiberdroseddu, a bygythiadau mewnol.
Mae blaenoriaethu atal dros ymateb yn hanfodol yng nghyd-destun troseddau ariannol. Drwy feithrin diwylliant o gydymffurfiaeth ac uniondeb, gall sefydliadau leihau’r risg o dwyll yn sylweddol a lleihau ei effaith bosibl ar eu gweithrediadau, eu cwsmeriaid a’u rhanddeiliaid.
Cymryd y camau cyntaf i amddiffyn eich sefydliad
Defnyddio cyfrineiriau cryf i amddiffyn eich data
Mae cyfrineiriau – pan gânt eu defnyddio’n gywir – yn ffordd hawdd sy’n rhad ac am ddim o atal defnyddwyr heb awdurdod rhag cael mynediad i’ch dyfeisiau. Defnyddiwch dri gair ar hap – fel porffor corwynt hipo – yn hytrach na cyfrineiriau cyffredin neu bersonol. Darparwch reolwyr cyfrineiriau – fel apiau rheoli cyfrineiriau – os bydd cyflogeion am gael mynediad i sawl dyfais. Defnyddiwch brawf dilysu dau gam lle y bo’n bosibl, a newidiwch gyfrineiriau diofyn y bydd gweithgynhyrchwyr wedi’u gosod ar ddyfeisiau.
Gwneud copi wrth gefn o'ch data
Dylai pob sefydliad, ni waeth beth fo’i faint, greu fersiynau wrth gefn o ddata pwysig er mwyn sicrhau parhad busnes os bydd ymosodiad. Nodwch y data na allai eich sefydliad weithredu hebddynt, yna cadwch fersiynau wrth gefn ohonynt ar ddyfais ar wahân – fel cof bach neu yriant ar wahân – nad yw’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd yn barhaol. Gallwch gadw fersiynau wrth gefn ar storfeydd cwmwl hefyd.
Amddiffyn eich sefydliad rhag maleiswedd
Gall meddalwedd faleisus – maleiswedd – niweidio eich sefydliad drwy heintio eich dyfeisiau â feirysau neu ysbïwedd. Gallwch amddiffyn eich hun drwy droi eich wal dân ymlaen, gosod a diweddaru meddalwedd gwrthfeirws yn rheolaidd, diweddaru eich meddalwedd a’ch caledwedd yn rheolaidd, ac addysgu eich cyflogeion ar risgiau negeseuon e-bost sgam (gwe-rwydo), apiau heb awdurdod, a gyriannau USB a chofau bach anawdurdodedig.
Beth y gallwn ei wneud i helpu
Cyflwyniadau / Sesiynau Ymwybyddiaeth
Ymweliadau â Safleoedd ar ôl Digwyddiadau
Gemau Bwrdd

Sut y gall ein partneriaid helpu

SeiberLarwm yr Heddlu
Mae SeiberLarwm yr Heddlu wedi’i gynllunio i weithio ochr yn ochr â’ch dyfeisiau diogelwch rhwydwaith i ddadansoddi data amheus a anfonir i’ch systemau gan ffynonellau ar y rhyngrwyd. Drwy ddod yn aelod o SeiberLarwm yr Heddlu, byddwch yn cael adroddiadau rheolaidd ar weithgarwch amheus, fel y gallwch gymryd camau i leihau ffactorau a nodwyd sy’n golygu eich bod yn agored i niwed.

Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru
Mae Canolfan Seibergadernid Cymru yn rhan o’r gwaith o gyflwyno Canolfannau Seibergadernid yn genedlaethol yn y DU a ddechreuodd yn 2019. Mae’n cynnig ffordd fforddiadwy i sefydliadau a busnesau gael mynediad i wasanaethau seiberddiogelwch a phecynnau aelodaeth sy’n amrywio er mwyn bodloni gofynion a meintiau gwahanol. Cynlluniwyd arlwy Canolfan Seibergadernid Cymru i helpu sefydliadau i nodi eu gwendidau, asesu eu cynlluniau a pholisïau cyfredol a gweithio gyda chyflogeion er mwyn meithrin eu hymwybyddiaeth seiber gyffredinol. Mae’r Ganolfan yn cynnig aelodaeth graidd am ddim i’ch helpu i ddechrau ar eich taith seibergadernid.