Deall yr ymosodiadau
Mae ymosodiadau gyda bygythiad corfforol, sef ymosodiadau ‘wrench’, yn fath o droseddu lle mae drwgweithredwyr yn bygwth, yn brawychu a/neu’n defnyddio trais yn erbyn dioddefwr i’w orfodi i ddatgelu cyfrineiriau, ymadroddion i gael mynediad at ei gyfrif a/neu drosglwyddo cryptoarian, yn hytrach na cheisio hacio’r dechnoleg ei hun. Mae’r term yn adlewyrchu’r syniad ei bod hi’n haws ymosod ar yr unigolyn na cheisio trechu dulliau amgryptio cadarn. Yn hytrach na hepgor mesurau diogelwch digidol, mae troseddwyr yn targedu unigolion yn uniongyrchol er mwyn cael gafael ar eu hasedau. Mewn rhai achosion byd-eang, mae hyn wedi cynnwys troseddau difrifol fel bwrgleriaeth waethygedig, herwgipio, a dal pobl yn wystlon.
Pam mae troseddwyr yn defnyddio’r tactegau hyn?
Er y gall y rhesymau y tu ôl i’r ymosodiadau hyn amrywio, wrth iddi ddod yn fwy amlwg pwy sy’n berchen ar gyfrif cryptoarian ar-lein, mae hyn yn gwneud unigolion ag asedau digidol yn dargedau deniadol i seiberdroseddwyr. Mae’r canfyddiad bod cryptoarian yn anodd ei olrhain a’i adfer weithiau, ynghyd â’r swmp o wybodaeth bersonol sydd ar gael ar-lein, yn gallu creu cyfleoedd i droseddwyr. Mae’r ymosodiadau hyn yn dangos sut y gellir addasu tactegau troseddol traddodiadol i gam-fanteisio ar asedau digidol.
Yr effaith yn y byd go iawn – Ymgyrch Clawback
Mae ymchwiliad diweddar gan yr Heddlu Metropolitanaidd yn tynnu sylw at yr effaith mae ymosodiadau o’r fath yn ei chael yn y byd go iawn. Yn 2024, dioddefodd buddsoddwr cryptoarian ymosodiad treisgar lle cafodd cryptoarian gwerth tua £3 miliwn ei ddwyn. Yn dilyn ymchwiliad cymhleth, llwyddodd swyddogion i adfeddu’r rhan fwyaf o’r arian a gafodd ei ddwyn a sicrhau euogfarnau yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
I gael rhagor o wybodaeth am yr achos hwn a sut y gwnaeth yr ymchwilwyr olrhain ac adfeddu’r cryptoarian a gafodd ei ddwyn, gwyliwch y fideo astudiaeth achos yma – Ymgyrch CLAWBACK
Sut galla i amddiffyn fy hun?
Yn sgil yr ymosodiadau hyn, rydym yn annog unigolion â chyfrifon cryptoarian i gymryd camau i amddiffyn eu hasedau a’u gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwirio gosodiadau diogelwch eich waled a defnyddio nodweddion fel waledi aml-lofnod, sy’n gofyn i chi gymeradwyo unrhyw weithgarwch sawl gwaith cyn symud asedau.
- Gwella eich diogelwch ar-lein drwy sefydlu dilysu aml-ffactor, dewis cyfrineiriau cryf, a defnyddio codau pas pan fo hynny’n bosibl.
- Osgoi rhannu manylion am eich cyfrifon cryptoarian yn gyhoeddus. Byddwch yn ymwybodol o’r wybodaeth bersonol sydd ar gael ar-lein e.e. cyfeiriad cartref, gweithle neu rif ffôn. Gall twyllwyr ddefnyddio’r manylion hyn i’ch adnabod a/neu eich targedu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mathew Davies, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: “Er bod cryptoarian yn cynnig cyfleoedd newydd i droseddwyr, yn aml iawn mae’r tactegau a ddefnyddir yn dilyn troseddau traddodiadol. Rydyn ni am i bobl ddeall bod amddiffyn eu hasedau digidol yn ymwneud â mwy na thechnoleg.
Drwy gymryd camau i wella eich diogelwch ar-lein, cyfyngu ar faint o’ch gwybodaeth bersonol sydd ar gael ar-lein, a defnyddio’r holl nodweddion diogelwch sydd ar gael i chi, gallwch leihau’r risg y byddwch yn cael eich targedu yn rhan o ymosodiad ‘wrench’ yn sylweddol. Rydym yn annog unrhyw un sy’n buddsoddi mewn cryptoarian neu sydd â chyfrifon o’r fath i fod yn wyliadwrus ac adolygu eu trefniadau diogelwch digidol a phersonol yn rheolaidd.”
Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad gyda bygythiad corfforol, neu os oes rhywun wedi eich bygwth neu roi pwysau arnoch i drosglwyddo cryptoarian, rhowch wybod i’ch heddlu lleol ar unwaith. Mae adroddiadau yn helpu cyrff gorfodi’r gyfraith i ymchwilio i droseddau, diogelu dioddefwyr a nodi bygythiadau sy’n dod i’r amlwg.
