Canllawiau Seiber i Gyrff Addysgol, Rhieni a Gwarcheidwaid


Mae oedran cyfartalog rhywun sy'n seiberdroseddu am y tro cyntaf yn y DU wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae asiantaethau gorfodi'r gyfraith bellach yn gweld adroddiadau o blant mor ifanc â deg oed yn torri'r gyfraith.
Gall chwarae gemau ar-lein roi amlygiad a llwybr i seiberdroseddu yn y DU, ac mae safleoedd fideo bellach yn cynnig tiwtorialau ar sut i ddefnyddio dulliau seiberdroseddu lefel isel.
Ystyrir bod pobl ifanc sydd â diddordeb mewn technoleg, sydd ag IQ uchel ac awydd i gymryd rhan mewn ymddygiadau peryglus yn wynebu risg uwch o gyflawni seiberdrosedd, ond nid yw llawer o unigolion sy’n seiberdroseddu am y tro cyntaf yn ymwybodol o beth yw’r gyfraith sy’n llywodraethu seiberdroseddu mewn gwirionedd.
Mae Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 yn nodi ei bod yn drosedd cael mynediad heb awdurdod i gyfrifiaduron a thechnoleg. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn deall beth mae’n ei gwmpasu, er mwyn iddynt allu meithrin a defnyddio eu sgiliau seiber yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
Mynediad heb awdurdod at ddeunydd cyfrifiadurol.
Rydych yn gwylio eich ffrind yn nodi ei enw defnyddiwr a’i gyfrinair. Rydych chi’n cofio ei fanylion mewngofnodi a, heb ei ganiatâd, rydych chi’n mewngofnodi’n ddiweddarach ac yn darllen ei negeseuon.
Mynediad heb awdurdod gyda'r bwriad o gyflawni troseddau pellach neu hwyluso'r gwaith o gyflawni troseddau pellach.
Mae eich ffrind yn gadael ei lechen ar y soffa. Heb ei ganiatâd, rydych yn cael mynediad i’w gyfrif chwarae gemau ac yn prynu credydau gêm gan ddefnyddio’r cerdyn credyd atodedig.
Gweithredoedd heb awdurdod a gyflawnir gyda'r bwriad o amharu ar weithrediad cyfrifiadur neu â diofalwch o ran amharu ar weithrediad cyfrifiadur.
Rydych yn chwarae gêm ar-lein gyda ffrind sy’n cael sgôr uwch na chi. Rydych yn defnyddio offeryn ‘Booter’ gan wybod y bydd yn ei ddatgysylltu o’r rhyngrwyd er mwyn i chi allu ennill y gêm.
Gweithredoedd heb awdurdod sy'n achosi difrod difrifol neu sy'n creu risg o ddifrod difrifol.
Rydych yn hacio i mewn i rwydwaith heddlu. Mae hyn yn arwain at oedi cyn ymateb i alwadau brys ac, er nad dyna oedd eich bwriad, roedd eich gweithredoedd yn ddiofal.
Gwneud, cyflenwi neu gael eitemau i'w defnyddio i gyflawni trosedd o dan adran 1, 3 neu 3ZA.
Rydych yn lawrlwytho meddalwedd er mwyn osgoi defnyddio manylion mewngofnodi ac yn hacio i mewn i liniadur eich ffrind. Fodd bynnag, nid ydych wedi cael cyfle i’w ddefnyddio eto.
Beth y gallwn ei wneud i helpu
Rydym yn gweithio gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i hyrwyddo ei rhaglen Cyber Choices. Cafodd y rhaglen ei chreu er mwyn helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth a defnyddio eu sgiliau seiber mewn ffordd gyfreithlon.
Nodau’r rhaglen yw:
- Esbonio'r gwahaniaeth rhwng gweithgarwch seiber cyfreithlon ac anghyfreithlon
- Annog unigolion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu defnydd o dechnoleg
- Gwella ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
- Hyrwyddo cyfleoedd seiber cadarnhaol, cyfreithlon
