Bydd angen i ddisgyblion gydweithio mewn timau o 2 – 3 i greu fideo byr sy’n codi ymwybyddiaeth o agwedd o Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 i’w cyfoedion. Er enghraifft, esbonio’r gwahaniaeth rhwng troseddau cyfrifiadurol a throseddau dibynnol ar gyfrifiadur, rhoi enghreifftiau o’r hyn sy’n gyfystyr â throsedd ym mhob Adran o’r Ddeddf, neu efallai esbonio sut y gall cyfoedion ddatblygu eu sgiliau cyfrifiadurol yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Gallai fideo Tarian ‘Peidiwch â Chroesi’r Lein i Seiberdroseddu’ hefyd roi ysbrydoliaeth: https://www.youtube.com/watch?v=7WxT1UA5E-E
Bydd y tîm buddugol yn derbyn Raspberry Pi 4 ar gyfer eu dosbarth, Microbit yr un, a thystysgrif gan yr Uned Seiberdroseddu Ranbarthol. Bydd dosbarth y timau buddugol hefyd yn cael yr opsiwn o fewnbwn gêm pen bwrdd gan ein tîm, lle gallant ddewis rhwng yr Ystafell Ddianc Seiber a her codio pêl Sphero.
Rheolau:
Ni ddylai’r ffilm fod yn hwy na 5 munud o hyd a dylai gael ei hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed.
Rhaid i ddisgyblion gofrestru mewn timau o 2 – 3 o bobl.
Rhaid i ddisgyblion fynychu ysgol yng Nghymru.
Gall ffilmiau fod yn Gymraeg neu Saesneg.
Ni all disgyblion gyflawni gweithgareddau anghyfreithlon ar gyfrifiadur er mwyn y fideo. Byddwch yn greadigol a dod o hyd i ffyrdd o gyfeirio at weithred, yn hytrach na’i chyflawni. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â DC Emyr Jones gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y wefan hon.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth fydd 18 Mawrth 2023. Cyhoeddir yr enillwyr ar y 25ain o Fawrth 2023.
Sut i fynd i mewn:
Rhaid cadw’r fideo mewn fformat mp4 a’i lanlwytho i WeTransfer neu Google Drive. Yna dylid e-bostio’r ddolen i Tarian.Cyber.Prevent@south-wales.police.uk
Rhaid i ddisgyblion gynnwys enw a chyfeiriad e-bost athro (fel ein pwynt cyswllt), enw eu tîm, eu henwau, teitl eu ffilm, enw eu hysgol, a’u grŵp blwyddyn.
Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â DC Emyr Jones gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y wefan hon. Neu cysylltwch â DC Jones drwy Tarian.Cyber.Prevent@south-wales.police.uk
